top of page

PAM HWYLIO?

CEFNOGI TREFTADAETH, CREU CYFLEOEDD, A CHOFLEIDIO CYFRIFIOLDEB CYMDEITHASOL

Rydym yn gwybod on profiadau ein hunain fod hwylio, yn enwedig mewn ardal mor arbennig ag ar y Fenai yn tonic ardderchog i bawb.  Mae gwynt y mor yn rhwybeth arbennig iawn, yn ein helpu i deimlo yn fyw, hapus a chysgu gymaint gwell.  Yn ogystal a hyn, mae nifer o manteision eraill hefyd.

 

Mae hwylio yn ddal ir corf far meddwl.  Mae ymchwil yn cadarnhau yr effaith bositif o wynt y mor, o wrando ar swn a mor ar tonnau, y manteision o fitamin D gan y haul, ar effaith gall rhyddhau endorffiniau  ei gael o wneud rhwybeth rydym yn ei fwynhau.  Mae hefyd nifer o fanteision corfforao, gwybyddol a chymdeithasol o gymerud rhan fel yr egluri ymhellach isod.

 

​

MANTEISION SEICOLEGOL

Mae gwynt y mor yn llawn ionau negyddol iach, sydd yn cyflymu ein gallu i amsugno ocsigen.  Maer ionau negyddol hefyd yn gallu cydbwyso lefelau serotonin, hormon yn y corff sydd yn gysylltiedig a hwyliau rhywyn, ag yn angenrheidiol i hybu hapusrwydd.  Efallai mai dyma pam y dywediad; 'does dim byd fel gwynt y mor’ er lles rhywyn.

​

Cafodd ymchwil gan Ysgol Meddygol Brifysgol Exeter ddarganfod fod pobl syn byw wrth ymyl, neu yn gwario amser ar y dwr yn 20% llai tebygol o dioddef o effeithiau iselder meddwl neu pryder, sydd yn cadarnhau yr effeithiau seicolegol.

​

Mae hyn hefyd yn cael ei gadarnhau gan waith

Dr Wallace Nichols, biolegydd morol enwog, sydd yn credu fod y teimlad o ymlacio ar gwch yn gallu cymorth a rheoli problemau fel trawma, colled, ag effeithau diffyg cwsg gan lleihau lefelau cortisol (hormon yn gysylltiedig a straen.)
 

Roy 3.jpg

MANTEISION GWYBYDDOL A CHORFFOROL

Mae hwylio yn ein cymorthi i ddatblygu ein sgiliau i ganolbwyntio ar nifer o dasgau ar yr un amser.  Mae gan pob person ar y gwch rhan bwysig i gadw y gwch a phawb sydd arni yn saff.  Drwy bob tro chwylio am rhwystrau, newidiadau yn y gwynt a llanw, neu gwrando ar cyfarwyddiadau gan eraill.

​

Oherwydd y natur o hwylio, maen waith corfforol iawn drwy codi a gollwng hwyliau neu angorion, cydsymud gwaith llaw a llygaid wrth gwylio yr hwyl a cychod eraill o gwmpas, ag hefyd ond wrth cadw eich sefydliad ar y gwch yn y tonnau.  Mae rhaid hefyd cael ystwythder, hyblygrwydd a chydbwysedd. Mae hyn oll i gyd yn cyfrannu at waith corfforol iawn.
 

Sobroan + Treleda Hi Res  Cropping_edited.jpg

MANTEISION CYMDEITHASOL AG ERAILL

Maer cwmniaeth, rhyngweithio a chymdeithasu o fewn y gymdeithas hwylio a cychod yn gryf iawn, a mae hyn yn amlwg ar phob lefel, o ddysgwyr newydd i rhai sydd wedi bod ar y dwr ers blynyddoedd maith. Mae pawb yn cael cymerud rhan ar, ag allan or dwr, gyda nifer o digwyddiadau cymdeithasol.

​

Gan fod MSHS yn hwylio cychod MSOD, cwch sydd wedi ei dylunio ag adeiliadu i hwylio a rasio ar y Fenai, maen gallu gwneud a cynnig gymaint.  Hwylio beth bynnag yw’r llanw, gallu mynd a teulu am hwyl braf, glanio ar traeth Lady Magdalen’s am bicnic neu nofio, neu hwylio ymhellach at Abermenai i gampio drost nos. Ag ir rhai mwy anturus, y cyfle i rasio cychod, (mewn fflyd cystadleuol iawn) sydd yn ehangu yr apel at yr amrywiaeth sydd ar gael o fewn hwylio.
 

​

lightning-launch.jpg

©2025 gan Hwylio Treftadaeth y Fenai.

bottom of page