
CYMERUD CYFRIOLDEB CYMDEITHASOL O DDIFRIF
CEFNOGI TREFTADAETH, CREU CYFLEOEDD, A CHOFLEIDIO CYFRIFIOLDEB CYMDEITHASOL
Mae cymerud cyfrifoldeb cymdeithasol a gwneud gwahaniaeth ym mywyd pobl yn un o brif amcanion prosiect MSHS. Mae ymddiriedolwyr y prosiect yn cydnabod yr effeithiau enfawr gafodd C19, ag digwyddiadau eraill byd-eang, wedi cael ar iechyd meddwl a lles emosiynol pobl. Rydym yn cydnabod maer effeithiau yn amrywiol, yn cynwys profedigaeth, ynysu ag unigrwydd, neu yn gwneud cyflwr a oedd yn gael ei reoli yn annoddach.
Mae effeithiau pellach hefyd yn ein ardal lleol, oherwydd colli gwaith neu gwasanaethau, yn ogystal a sialensau personol gan aelodau or gymuned drwy henaint neu materion iechyd.
Rydym yn ddigon pragmatic i gydnabod fod yna cyfyngiadau in prosiect ir effeithiau yn gyffredinol. Fodd bynnag rydym yn credu fod genym rol bositif iw chwarae, ag fod yno gyfla o ymrwymiad i wneud gwahaniaeth i les unigolion sydd yn cysylltu gyda ein prosiect.
​
Ffocws or prosiect iw i greu hwb adnoddau cymunedol, creu cyfla i hamddena, dysgu sgiliau, a chymdeithasu gyda'r nod o hybu cynwysoldeb cymdeithasol i aelodau or gymuned lleol, (Ardal Seiriol) ar gymuned ehangach, (Ynys Mon a Gwynedd) trwy broses o pregripsiwn cymdeithasol, cyfeiraid gan iechyd cynradd neu gofal cymdeithasol, neu hunan-gyfeiriad.
Rydym ni yn coelio ein bod gennym yr ymrwymiad, yr amgylchedd, ar sgiliau i gymorthi gwirfoddolwyr i gael budd oi ymglymiad ir prosiect. Rydym yn gobeithio hybu mwy o cynwysoldeb ag amrywiaeth yn ogystal a cyfla i amlgenhedlaethau ddod at eu gilydd. Mi wnaethom ddechrau cynnig cyfleuon hwylio ynghynt nar disgwyl. Yn 2022, mi aeth tua 12 o wirfoddolwyr i hwylio, ag maer nifer yn cynyddu yn flynyddol, gydar gobaith o gael mwy na 50 yn 2025. Roedd y gwirfoddolwyr a cyfranogwyr yn cynwys rhai a anaf ymenudd, dementia, myfyrwyr o goleg lleol, aelodau o gymuned o Wcrain, sgowtiaid, a phwy bynnag arall a oedd wedi gofyn i gael ein ymuno.
Mae genym sied penodol, sef uned 6A yn Penrhyn Safnas, ar gobaith fydd hwn yn dod yn ein lle sylfaenol. Ein strategaeth yn symud ymlaen iw i gynnig cyfleuoedd cadarn i fobl ymuno, dysgu sgiliau newydd, cofleidio rhyngweithio cymunedol, neu trwsio cychod. Yn bresenol rydym yn datblygu ein cynlluniau am 2025-27 ag yn trafod sut rydym am cynal y prosiect ymlaen i 2028 ag ymalen.
​
Mae’r rhan mae treftadaeth yn ei gyfrannu i cynwysoldeb cymdeithasol yn gael ei drafod ar tudalen Treftadaeth, ar agweddau yma rydym yn ei ddefnyddio i hybu rhyngweithio cymdethasol a lles seicolegol.
​
Mae pawb sydd yn mynychu yn cael eu disgrifio fel gwirfoddolwyr neu cyfranogwyr beth bynnag yw eu rol gydar prosiect i osgoi unrhyw gwarth syn gysylltieding o fod yn rhan or prosiect.
​