top of page
Dennis.jpg

DENNIS JOHN NEWELL

1954 i 2017

Mi wnaethom sylwi yn gyntaf ar Dennis, yn sefyll ar ‘y ffrynt’ wrth yml y linell gychwyn, yn dangos diddordeb mawr yn ein cychod MSOD tra oeddynt yn ganol ras.  Yr oedd yn cymerud llyniau, ag yn edmygu symudiad y cychod.


Cyn hir, mi ddoth ataf ar ol gorffen ras, yn mynegi ei diddordeb yn y cychod, eu hanes, ag holodd os oedd un ar werth,  Wedi fod yn berchen ar ein MS am bron i chwarter canrif, roeddant yn barod am seibiant, ac felly heb dim lol, mi brynodd Dennis rhif 8, Teaping gan Tim Booth a finna.


Ar yr pryd, mi wnes fynegi ei fod yn prynu ffordd o fyw, yn ogystal a cwch arbennig.  Yr oedd yn bleser gweld Dennis ai deulu, Alison, Hugo a Jack yn cofleidio eu perchenogiaeth ag ymglymiad cymdeithasol yn y fflyd.  


I mi, fe ddatblygodd ein cyfeillgarwch, roedd ganddo gymaint o brwdfrydedd am fywyd,  wrth trefnu a chytuno i fynd i gyngherddau gan arlunyddion nad oeddant wedi clywed ohonynt, a chael profi cwrw a bwydydd gwahanol.   Mae gennyf ddwy atgof arbennig,  mynd i weld ‘Too Many Zoos’ ag band teyrnged Otis Redding a oedd gyda arweinydd lleisiol anhygoel Burundian.  Roedd y ddwy cyngerdd yma yn Manceinion, yn Band on the Wall.
 

Yn sylweddol, roedd diffyg profiad hwylio Dennis yn cael ei oresgyn gan ei brwdfrydedd i ddysgu a gwella. Weithiau, mi fysa yn deg i ddweud fod ei brwdfrydedd efallai yn ei arwain i hwylio mewn amodau lle dylsai ddim wedi, gellir dadlau y gora oedd ei gais i daro wal y Doc yn Gaernarfon!

Fodd bynnag roedd ei wytnwch ef, ar teulu oll, yn anaml yn cael tolc, ble os oedd angen, fydd y gwch yn cael ei thrwsio yn sydyn, ag yn nol ar y dwr yn hapus unwaith eto.  

Roedd yn ffotograffydd talentog iawn, ag mi gynhyrchodd llyfr hanes mewn llyniau hardd or fflyd i ddathlu penblwydd y gwch yn 75eg oed.

​

Yn anffodus, mi gafodd Dennis ddiagnosis cancr ymosodol iawn (Sarcoma) a bu farw yn Chwefror 2017. Yn ystod fy aelodaeth o 50 mlynedd yn y clwb hwylio, nid oes gennyf gof o neb gyda gymaint o effaith bositif mewn cyn lleied o amser a Dennis.  Y maen cael ei fethu yn ddwys iawn.

​

Er cof am Dennis, mae ei wraig Alison nid yn unig wedi rhoddi Taeping ir prosiect, ond hefyd wedi ymroddi rhodd sylweddol.  Fel yr ydwyf yn ysgrifennu hyn, maen edrych yn debyg y mae yn cymerud y fantel (answyddogol) gweinyddol or prosiect.

​

Henry Chesterton
Awst 2021.

 

 

​

​

​

​

  
 

©2025 gan Hwylio Treftadaeth y Fenai.

bottom of page